Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf
Language: Welsh
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf
“Dydd da fo i ti seren olaf,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Tydi yw’r gywrain ferch a garaf,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Wel, cau dy geg yr hen oferddyn,
Y casaf eiriod ar wyneb y tir!
Mi grogaf fy hun cyn dof i’th ganlyn,
Mewn gair, dyna ti’r gwir.”
“Y mae dy gusan di, fanwylyd,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
R’un fath a duliau mel bob munud,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Ac felly mae dy gusan dithau,
Y casaf eiriod ar wyneb y tir,
Yn ail i gam, yn ail i minau,
R’hen geg, dyna ti’r gwir!”
“Dywed i mi pryd cawn briodi,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Gwn dy fod yn eiddo imi,
Lliw gwyn Rhosyn yr haf.”
“Pan weli di’r gath yn byta’r pwdin,
Y casaf eiriod ar wyneb y tir!
A buwch Sion Puw yn gwneud menyn
R’hen geg, dyna ti’r gwir!”
“Os wyt ti am roi fi heibio,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Wel dyro gusan cyn ffarwelio,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Wel… waeth i mi ddweud y gwir na pheidio,
Y mwynaf eriod ar wyneb y tir,
Cest ddwy o’r blaen, cei bymtheg eto.
Mewn gair, dyna ti’r gwir.”