Myn Mair

Llun: Dwy ganwyll yn y tywyllPicture: Two candles in the dark
Origin: Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Cymru
Language: Welsh

Myn Mair


Fy hatling offrymaf drws enaid dan glo

Fy nghanwyll offrymaf yn eglwys y fro

‘R offeren weddïaf saith seithwaith yn daer

Er cadw ei enaid anfarwol, myn Mair


Sant Pawl a Sant Peder, holl seintiau y nef

A Mair, mam y Duwdod, eiriolwch yn gref

Drws iddo gael heddwch a gwerthfawr ryddhad

Paradwys agored, a breichiau ei Dad, myn Mair


Mam Iesu’r brydferthaf o ferched y byd

Morwynig Frenhines y nefoedd i gyd

Dlos lili y dyffryn, gwiw rhosyn y nef

Eiriola dros enaid fy nghyfaill yn gref, myn Mair



Myn Mair


I offer my penny to the locked-up soul

My candle I’ll give in the parish church,

I’ll say mass fervently seven times seven times

To keep safe his eternal soul, myn Mair


Saint Paul and Saint Peter, all the saints of heaven,

And Mary, Mother of God, entreat with all seriousness,

That he may have peace, and rich relief,

Open paradise, and the arms of his Father.


Jesus’ Mother, most beautiful woman in the world,

Virgin Queen of all the heavens,

Pretty lily of the valley, fair rose of heaven,

Entreat with all seriousness on behalf of my friend’s soul.