Pan O'wn Y Gwanwyn
Language: Welsh
Pan O'wn y Gwanwyn
Pan o’wn y gwanwyn ar uchelfryn
Yn gwylio’r defaid gyda’r ŵyn
Clywn lais fy nghariad bêr ei chaniad
Yn seinio’n llawen yn y llwyn
Oedd gwawr llawenydd ar ei deurydd
O mor hardd ei lliw a’i llun
A minnau’n syllu ac ymhyfrydu
Gan hardded hwyl fy annwyl fun
Aeth pob gofalon o fy nghalon
Yn sŵn y seiniau mwy na ‘rioed
A pheidiodd trydar mân y adar
Wrth wrando’r caniad dan y coed
Es draw i’r goedfron at fy ngwenfron
Rhois fy llaw i’r lana’i lliw
A thyngais lwon y byddwn ffyddlon
I’r fenws fwyn tra byddwn byw
When it was springtime
When it was springtime on the high hills
Looking at the sheep with the lambs
I hear my lover's sweet voice singing
Sounding happy in the ash trees
The dawn of happiness was on her cheeks
Oh, how lovely she looks!
Gazing upon her, I was delighted
By the beauty of my darling beloved
Every care in the world left my heart
Hearing the sound of sounds more than ever
And the birds stopped singing
Listening to my lover singing in the forest
I went through the wooded hillside to my Gwenfron
I gave my hand to the lovely lady
And I swore I would be faithful
To the fair Venus as long as I live