Teg Wawriodd

Llun: Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir BenfroPictured: St Davids Cathedral, Pembrokeshire
Origin: Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Cymru
Language: Welsh

Teg wawriodd


Teg wawriodd boreddydd na welwyd ei ail

Er cread y byd na thywyniad yr haul:

Bore gwaith a gofir yn gynnes ar gân,

Pan fo haul yn duo a daear ar dân.


Y testun llawenaf i'n moliant y sydd,

Fe aned in Geidwad, do, gwawriodd y dydd,

Yn Geidwad i deimlo dros frodyr dan faich,

Yn Grist i'n gwaredu, Un cadarn ei fraich.


Y Bachgen a anwyd yn rhychwant o hyd

A Mab sydd â'i rychwant yn mesur y byd!

Yn faban bach egwan ar fronnau ei fam,

Ac eto yn cynnal y bydoedd heb nam!


Mewn gwyl fawr dragwyddol sydd eto i ddod,

Moliannwn ein Ceidwad, datganwn ei glod

Cydseiniwn 'Hosanna' nes atsain y nen,

Rhown iddo ogoniant a moliant. Amen.


Teg wawriodd


A fair morning dawned like never seen before

Since the creation of the world or the shining of the sun

A morning that is remembered warmly in song

When the sun blackens and the Earth is on fire.


The happiest words for our praising is

The Saviour is born, yes, the day dawned

The Saviour to feel for his burdened brethen

Christ saves us, One with strong arms


The boy born a rhychwant long

The son in his rhychwant holds the world!

A small carefree baby on his mother's bosom,

Yet maintaining the worlds without fault


In a great celebration to come,

We praise our Saviour, we declare his praise

We sing 'Hosanna' until the sun echoes,

We give him glory and praise, Amen.